Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mawrth 2017

Amser: 09.15 - 11.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3866


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Lee Waters AC

Tystion:

Yr Athro  Keith Lloyd, Deon Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Craig Hathaway, Swansea University Medical School

Dr Stephen Riley, Deon Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Ian Weeks, Pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd

Madeline Phillips

Michelle Fowler

Beti George

Nigel Hullah

Emily Jones

Karen Kitch

Staff y Pwyllgor:

Sian Thomas (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Zoe Kelland (Dirprwy Glerc)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 457KB) Gweld fel HTML (279KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC. Dirprwyodd Lee Waters AC ar ran Jayne Bryant.

 

2       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 10 - ysgolion meddygol Cymru

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd.

 

3       Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - sesiwn dystiolaeth 7 - pobl sy'n byw â dementia

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan bobl sy'n byw gyda Dementia.

 

4       Papurau i’w nodi

 Ymchwiliad i recriwtio meddygol - gwybodaeth ychwanegol gan BMA Cymru Wales

4.1 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan BMA Cymru Wales.

 

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

6       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.

 

7       Ymchwiliad i strategaeth genedlaethol ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia - trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod eitem 3 y cyfarfod.

 

8       Ymchwiliad i ofal sylfaenol - paratoi i gymryd tystiolaeth

8.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau pellach ar ei ymchwiliad i ofal sylfaenol a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor yr haf.